Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 9 Gorffennaf 2018

Amser: 14.30 - 14.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4772


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AC (Cadeirydd)

Mandy Jones AC

Dai Lloyd AC

David Melding AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Ruth Hatton (Dirprwy Glerc)

Alys Thomas (Ymchwilydd)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(5)233 - Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018

</AI3>

<AI4>

2.3   SL(5)235 - Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2018

</AI4>

<AI5>

2.4   SL(5)236 - Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018

2.5   SL(5)234 - Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

</AI5>

<AI6>

3       Papurau i’w nodi

</AI6>

<AI7>

3.1   Datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: Concordat rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru

Nododd yr Aelodau y datganiad ysgrifenedig ar y Concordat rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth ynghylch paragraff 20 y concordat.

</AI7>

<AI8>

3.2   Gohebiaeth mewn perthynas â Bil yr UE (Ymadael) a'r Cytundeb Rhynglywodraethol

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.

</AI8>

<AI9>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Derbyniwyd y cynnig.

</AI9>

<AI10>

5       Blaenraglen waith

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. Nododd y Pwyllgor fod angen i'r rhaglen ddarparu ar gyfer deddfwriaeth yn ymwneud â Brexit yn y dyfodol ac unrhyw Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol perthnasol, sifftio rheoliadau negyddol arfaethedig a wneir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018, craffu ar Filiau'r Cynulliad, a chraffu ar reoliadau a gorchmynion nad ydynt yn gysylltiedig â Brexit.  Serch hynny, mynegwyd siom nad oedd gan y Pwyllgor y gallu eto i fynd ar drywydd cynigion ar gyfer Bil Comisiynwyr a byddai'n ailystyried ymhellach yn yr hydref.

</AI10>

<AI11>

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>